Welsh Crucible opens 2022 call for applications // Galw am geisiadau i ddilyn rhaglen Crwsibl Cymru 2022

Game-changing” Welsh Crucible programme opens latest round of recruitment for exceptional researchers across Wales.

Welsh Crucible is looking for exceptional researchers from across Wales to apply for this year’s award-winning programme.

Now in its twelfth year, the programme will offer early- and mid-career researchers the chance to build their personal, professional and leadership skills with a view to becoming the future research leaders of Wales.

A total of 30 places are available for the programme, which involves three intensive 2-day residential workshops, or ‘labs’, comprising inspiring guest speakers, interactive skills sessions and informal discussions. The workshops will focus on how the participants can benefit from working with researchers in other disciplines, how their research can have greater impact, and how they can build international research careers in Wales.

The Welsh Crucible programme, which is funded by a consortium of Welsh universities and the Higher Education Funding Council for Wales, won the Times Higher Education Award for Outstanding Contribution to Leadership Development in 2013, with judges commenting that it delivers “game-changing impacts on attitudes and behaviours”.

“”Welsh Crucible is a wonderful opportunity for researchers and has many benefits”, said Dr Rhiannon Robinson, Programme Manager. “Not only do participants learn a broad range of new skills, they are also able to develop close networks with other researchers from a wide background of disciplines.  As such, the programme provides an excellent arena for researchers to initiate collaborations and gain insight into how to reach their full potential in their careers.”

Fiona Robinson, a Development Specialist at Cogent Power Ltd, participated in Welsh Crucible in 2012 and commended the programme for opening up opportunities that may not have existed in her day-to-day working life.

“The biggest change as a result of Welsh Crucible has been at a personal level, specifically increasing my confidence that my research has relevance and is of value. Since participating in Welsh Crucible I have had several articles published in professional journals, and I have also set up a technical network for industrially-based postgraduate students in South Wales, which has developed links outside my organisation with new contacts.”

Information about the eligibility criteria and how to apply is available on the Welsh Crucible website, and online information sessions will be publicised on our social media and website in the coming weeks. Applications are open until the 18th of February.

Ymchwilwyr rhagorol ledled Cymru wrthi’n cael eu recriwtio i ddilyn rhaglen arloesol Crwsibl Cymru

Mae ymchwilwyr rhagorol ledled Cymru’n cael eu hannog i wneud cais i ddilyn rhaglen Crwsibl Cymru eleni.

A hithau yn ei deuddegfed flwyddyn erbyn hyn, mae’r rhaglen yn rhoi cyfle i ymchwilwyr ar ddechrau neu ar ganol eu gyrfa ddatblygu eu sgiliau personol, proffesiynol ac arwain, gyda golwg ar ddod yn arweinwyr ymchwil yng Nghymru yn y dyfodol.

Mae cyfanswm o 30 o leoedd ar gael ar y rhaglen. Yn rhan o’r rhaglen fydd tri gweithdy preswyl dwys, neu ‘labordy’, sy’n para dau ddiwrnod. Bydd y rhain yn cynnwys cyflwyniadau gan siaradwyr gwadd ysbrydoledig, sesiynau rhyngweithiol i ddatblygu sgiliau a thrafodaethau anffurfiol. Bydd y gweithdai’n canolbwyntio ar sut y gall y rhai sy’n dilyn y rhaglen elwa ar weithio gydag ymchwilwyr ym meysydd eraill, cynyddu effaith eu gwaith ymchwil a datblygu gyrfa ymchwil ryngwladol yng Nghymru.

A hithau’n cael ei hariannu gan gonsortiwm o brifysgolion yng Nghymru, gan gynnwys Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, gwnaeth rhaglen Crwsibl Cymru ennill Gwobr Times Higher Education yn 2013 ar gyfer gwneud cyfraniad rhagorol at arweinyddiaeth. Yn ôl y beirniaid, mae’n “trawsnewid agweddau ac ymddygiad”.

“Mae Crwsibl Cymru’n rhaglen wych i ymchwilwyr, ac mae iddi lawer o fanteision,” meddai Dr Rhiannon Robinson, Rheolwr y Rhaglen. “Mae’r rhai sy’n dilyn y rhaglen nid yn unig yn dysgu ystod eang o sgiliau newydd ond hefyd yn meithrin cysylltiadau agos ag ymchwilwyr eraill sy’n gweithio mewn meysydd gwahanol.  Mae hynny’n golygu bod y rhaglen yn galluogi ymchwilwyr i gydweithredu a chael syniad o sut i wireddu eu potensial llawn.”

Gwnaeth Fiona Robinson, Arbenigwr Datblygu yn Cogent Power Ltd, ddilyn rhaglen Crwsibl Cymru yn 2012, ac mae’n canmol y rhaglen am agor y drws i gyfleoedd na fyddai wedi bod ar gael yn ei gwaith bob dydd.

“Mae Crwsibl Cymru wedi cael effaith ar lefel bersonol yn bennaf. Rwy’n fwy hyderus bod fy ymchwil yn berthnasol ac o werth. Ers dilyn y rhaglen, mae sawl erthygl a ysgrifennwyd gennyf wedi’i chyhoeddi mewn cyfnodolion proffesiynol. Rwyf hefyd wedi creu rhwydwaith technegol ar gyfer ôl-raddedigion diwydiannol yn ne Cymru, sydd wedi arwain at feithrin cysylltiadau newydd y tu allan i’m sefydliad.”

Mae gwybodaeth am y meini prawf ar gyfer bod yn gymwys i wneud cais i’w gweld ar wefan Crwsibl Cymru. Bydd manylion ein sesiynau gwybodaeth ar-lein yn cael eu cyhoeddi ar ein gwefan a thrwy ein cyfrifon ar y cyfryngau cymdeithasol dros yr wythnosau nesaf. Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw 18 Chwefror.