Rhiannon Marks

Rhiannon Marks

Cardiff University

Welsh Crucible 2021

Derbyniodd Rhiannon ei haddysg ym Mhrifysgol Aberystwyth a Choleg Iesu, Rhydychen ac mae’n arbenigo mewn llenyddiaeth Gymraeg, astudiaethau menywod a theori lenyddol. Ymunodd ag Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, yn 2011 lle mae bellach yn Uwch-ddarlithydd ym maes llenyddiaeth gyfoes a theori lenyddol. Cyhoeddwyd ei monograff diweddaraf, Y Dychymyg Ôl-Fodern: agweddau ar ffuglen fer Mihangel Morgan gan Wasg Prifysgol Cymru yn 2020 lle mae’n trafod agweddau ar hunaniaeth yng nghyswllt llenyddiaeth ôl-fodernaidd. Mae Rhiannon yn awyddus i barhau i archwilio dulliau creadigol o gyflwyno ymchwil yn ymwneud ag hunaniaeth yn enwedig yng nghyd-destun ieithoedd lleiafrifol.

Rhiannon studied at the University of Aberystwyth and Jesus College, Oxford and specialises in Welsh literature, women’s studies and literary theory. She was appointed by the School of Welsh, Cardiff University in 2011 where she is now Senior lecturer in the fields of contemporary literature and literary theory. Her recent monograph, Y Dychymyg Ôl-Fodern: agweddau ar ffuglen fer Mihangel Morgan [The Postmodern Imagination: aspects of Mihangel Morgan’s short fiction], published by the University of Wales Press in 2020, analyses aspects of identity in postmodern fiction. Rhiannon is keen to further explore creative approaches to research relating to identity in a minority-language context.

Website Email Twitter