Rhwydwaith Crwsibl Cymru

Bob blwyddyn, mae Crwsibl Cymru yn creu rhwydwaith o 30 o ymchwilwyr ledled Cymru.

Drwy gyfres o weithdai preswyl 2 ddiwrnod o hyd, mae arweinwyr ymchwil y dyfodol yn cael y cyfle i edrych ar gydweithio ac arloesi rhyngddisgyblaethol.

Ar ôl deuddeg mlynedd, mae rhwydwaith cyn-ymchwilwyr Crwsibl Cymru yn cynnwys 330 o aelodau.

I weld proffiliau ymchwilwyr Crwsibl Cymru, cael gwybod rhagor am brosiectau llwyddiannus a pharhaus, a chael gafael ar adroddiadau yn y cyfryngau a rhagor, cliciwch y dolenni yn y bar ochr.

Meini prawf dethol

  • Rhagoriaeth mewn ymchwil
  • Diddordeb mewn gwaith ymchwil rhyngddisgyblaethol, a phrofiad ohono
  • Gallu meddwl yn greadigol ac yn arloesol
  • Diddordebau y tu hwnt i ymchwil sylfaenol
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol
  • Dealltwriaeth o genhadaeth Crwsibl Cymru ac ymroddiad iddi.
The awards logo