Hysbysiad Preifatrwydd

Hysbysiad Preifatrwydd Crwsibl Cymru

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch Crwsibl Cymru, cysylltwch â welshcrucible@caerdydd.ac.uk ar bob cyfrif.

Mae’r hysbysiad hwn yn nodi sut rydym yn delio â data personol pobl sy’n gwneud cais i raglen Crwsibl Cymru, sy’n gyfranogwyr ohoni a’i chyn-ymchwilwyr.

Y Rheolydd Data

Caiff Prifysgol Caerdydd ei hystyried yn Rheolydd Data ar gyfer Crwsibl Cymru, felly mae’n gyfrifol yn gyfreithiol am brosesu eich data personol yn unol â deddfwriaeth diogelu data.

Mae Prifysgol Caerdydd yn coladu gwybodaeth amdanoch yn ystod y cyfnod ymgeisio. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn defnyddio’r wybodaeth a goladwyd i drefnu eich lle ar raglen Crwsibl Cymru. Bydd y Brifysgol hefyd yn defnyddio rhywfaint o’r wybodaeth ar gyfer dadansoddi a monitro.

Mae Prifysgol Caerdydd wedi’i chofrestru â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) fel Rheolwr Data er mwyn prosesu data personol. Rhif cofrestru Z6549747.

Manylion Cyswllt y Swyddog Diogelu Data

Rhaid i’r Brifysgol gael swyddog diogelu data y gellir cysylltu â nhw os oes gennych chi unrhyw ymholiadau, pryderon neu gwynion am y ffordd y caiff eich data personol ei brosesu. Gallwch gysylltu â Swyddog Diogelu Data Prifysgol Caerdydd drwy ebostio InfoRequest@caerdydd.ac.uk

Sut caiff eich data personol ei gasglu a’i ddefnyddio?

Mae’r canlynol yn rhestru’r wybodaeth sydd ar hyn o bryd yn cael ei chasglu a’i phrosesu ar wahanol gamau, o’r broses ymgeisio hyd at bod yn ymgeisydd llwyddiannus a hyd yn oed unwaith y byddwch yn dod yn gyn-ymchwilwyr Crwsibl Cymru.

  1. enw
  2. manylion cyswllt, cyfeiriad a chyfeiriad ebost
  3. enw’r sefydliad rydych yn gweithio iddo
  4. ffotograffau (a y byddwch yn rhan o’r rhaglen)
  5. Data monitro cyfle cyfartal a fydd yn cynnwys categorïau sensitif o ddata (e.e. oedran, rhyw, ethnigrwydd, crefydd, cyfeiriadedd rhywiol, anabledd, cenedligrwydd, p’un a ydych yn briod)

Cesglir y wybodaeth bersonol a roddir ar y ffurflen gais er mwyn prosesu’r cais, rhoi’r newyddion diweddaraf i chi ar gynnydd eich cais ac, os bydd y cais yn llwyddiannus, gweinyddu eich cyfranogiad yn rhaglen Crwsibl Cymru.

Os cewch eich dewis fel ymgeisydd llwyddiannus ar raglen Crwsibl Cymru, caiff y wybodaeth ganlynol ei chasglu;

  1. a oes angen unrhyw addasiadau rhesymol arnoch oherwydd anabledd
  2. enw a manylion cyswllt eich perthynas agosaf
  3. gofynion dietegol arbennig

Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data personol

O dan ddeddfwriaeth diogelu data mae seiliau cyfreithiol amrywiol ar gyfer prosesu eich data personol, a nodir y prif seiliau isod:

  1. O ran y wybodaeth a roddir ar eich ffurflen gais, byddwn yn prosesu eich data yn rhan o’n gwaith o ddarparu tasg er budd y cyhoedd, sef y dasg o gynnig cyfleoedd hyfforddiant i’r rhai hynny sy’n cyflawni gwaith ymchwil er budd y cyhoedd a hefyd y gwaith o hyrwyddo a datblygu ymchwil er mwyn cyfrannu at ddatblygiad cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd Cymru.
  2. Yn ystod y broses ymgeisio gofynnir i chi ystyried llenwi ffurflen cyfle cyfartal fydd yn cynnwys data personol sy’n cael ei nodi fel ‘categori arbennig’ megis ethnigrwydd, credoau crefyddol neu gyfeiriadedd rhywiol ac ati. Caiff y data hwn ei gasglu er mwyn cydymffurfio â’n rhwymedigaeth gyfreithiol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Unwaith i’ch cais gael ei dderbyn caiff y wybodaeth hon ei gwahanu o’r ffurflen gais a’i chadw ar ffurf ddienw a ddefnyddir at ddibenion monitro yn unig.
  3. O ran tynnu lluniau, rydym yn prosesu’r rhain o dan sail gyfreithiol buddiannau cyfreithlon.

Pwy sydd â mynediad at y wybodaeth?

Bydd staff rhaglen Crwsibl Cymru yn cael mynediad at y wybodaeth ar eich ffurflen gais er mwyn ei phrosesu, a chaiff y wybodaeth ei rhannu â’r rhai hynny sy’n asesu eich cais. Caiff y cais ei wneud yn ddienw cyn cael ei anfon at y panel asesu ar gyfer y broses ddethol a chaiff yr holl ddata monitro cydraddoldeb ei ddileu.

Bydd y Sefydliad Addysg Uwch rydych yn gweithio iddo yn cael gwybod am ganlyniad eich cais. Os bydd eich cais yn aflwyddiannus, gall eich Sefydliad Addysg Uwch gysylltu â chi i ystyried sut y bydd modd cynnig rhagor o gymorth a datblygiad i chi yn y maes hwn.

Gall y Brifysgol rannu eich enw a’ch data personol perthnasol â Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC). Byddwn yn darparu manylion ystadegol o’n cyfranogwyr a’n cyn-ymchwilwyr bob blwyddyn ar gyfer adroddiad blynyddol CCAUC.

Bydd unrhyw ddatgeliadau eraill a wneir gan y Brifysgol yn unol â chyfraith Diogelu Data a bydd eich buddiannau’n cael eu hystyried bob amser.


A oes gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo y tu allan i’r UE?

Yn gyffredinol, mae’r wybodaeth y byddwch yn ei darparu i ni yn cael ei chadw ar ein serfwyr diogel, neu ar ein systemau cwmwl a leolir o fewn yr AEE. Fodd bynnag, mae adegau pan fydd angen i ni storio gwybodaeth y tu allan i’r AEE. Os trosglwyddwn eich gwybodaeth y tu allan i’r AEE, byddwn yn cymryd camau i sicrhau y cymerir camau diogelwch priodol i ddiogelu eich hawliau preifatrwydd fel y’u hamlinellir yn y polisi hwn. Gallai hyn ddigwydd drwy osod rhwymedigaethau cytundebol ar dderbynnydd eich gwybodaeth bersonol, neu drwy sicrhau bod y derbynwyr wedi tanysgrifio i ‘fframweithiau rhyngwladol’ sydd â’r nod o sicrhau diogelwch digonol. Er enghraifft, byddem yn sicrhau bod cyflenwyr sydd yn yr Unol Daleithiau wedi ymrwymo i “Privacy Shield”. Bydd mesurau technegol fel amgryptio hefyd yn cael eu hystyried.


Am ba hyd y caiff eich gwybodaeth ei chadw?

Caiff cofnod o’ch cais ei gadw am 7 mlynedd a bydd yn cynnwys eich enw, eich Sefydliad Addysg Uwch, dyddiad eich cais a’ch canlyniad â’r rhesymau dros hwnnw. Bydd eich ffurflen gais fanwl yn cael ei dinistrio 7 mlynedd ar ôl eich cais p’un a ydych yn llwyddiannus ai peidio. Caiff cofnodion dienw o’r wybodaeth am fonitro cydraddoldeb eu cadw er mwyn monitro proffil amrywiaeth ceisiadau a’r rhai hynny sy’n llwyddiannus.

Caiff yr holl ddata ei gadw ar weinyddion diogel Prifysgol Caerdydd am hyd at 7 mlynedd.


Eich hawliau

O dan ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych hawliau penodol a fydd yn gysylltiedig â’r sail gyfreithiol a ddefnyddir gennym i brosesu eich data. I gael rhagor o wybodaeth, cymerwch gip ar y canllawiau canlynol a gyhoeddwyd gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.

Gellir cael rhagor o wybodaeth am ddiogelu data ym Mhrifysgol Caerdydd yma: https://www.cardiff.ac.uk/cy/public-information/policies-and-procedures/data-protection

Rydym yn gobeithio ateb unrhyw gwestiwn, ymholiad neu bryder sydd gennych. Yn y lle cyntaf, cysylltwch ag inforequest@caerdydd.ac.uk, ond os byddwch yn anfodlon o hyd gallwch gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth. Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth sy’n gyfrifol am reoleiddio diogelu data yn y DU.