Beth yw Crwsibl Cymru?

Rhaglen datblygiad personol, proffesiynol a sgiliau arwain o fri ar gyfer arweinwyr ymchwil y dyfodol yng Nghymru yw Crwsibl Cymru.

Cefnogir Rhaglen Crwsibl Cymru gan gonsortiwm o brifysgolion Cymru a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru CCAUC). Bob blwyddyn, mae’n dod â 30 o ddarpar ymchwilwyr ynghyd i drafod sut gallant weithio gyda’i gilydd i fynd i’r afael â’r heriau ymchwil presennol sy’n wynebu Cymru.

Ei nod yw helpu’r rhai sy’n cymryd rhan i ddysgu:

– sut mae ymchwilwyr eraill ar ddechrau ac ar ganol eu gyrfa mewn disgyblaethau eraill yn mynd i’r afael â’r un materion;
– sut y gallant drosglwyddo eu gwybodaeth i’r byd cyhoeddus er mwyn cael effaith;
– pa sgiliau ac agweddau sy’n debygol o wneud eu gwaith ymchwil yn fwy arloesol;
– sut gall meddwl yn greadigol wneud gwahaniaeth i’w gwaith a’u gyrfa.

Mae Crwsibl Cymru yn seiliedig ar raglen ddatblygu  uchel ei pharch ‘Crucible’ NESTA, ac mae wedi’i llywio gan lwyddiannau Crwsibl yr Alban (Scottish Crucible.  Mae gan y rhaglen gysylltiadau â Chymdeithas Ddysgedig Cymru, sy’n helpu i hyrwyddo’r rhaglen a chydnabod ei llwyddiannau.

Mae Crwsibl Cymru ar gyfer ymchwilwyr dawnus sydd ar ddechrau neu ar ganol eu gyrfa ac sydd ag o leiaf tair blynedd o brofiad ymchwil ôl-ddoethurol (neu gyfwerth) yn gweithio mewn unrhyw ddisgyblaeth. Gall y rhain gynnwys gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, meddygaeth, y celfyddydau, dylunio, gwyddor gymdeithasol a gwleidyddol. Rhaid i’r rhai sy’n cymryd rhan fod yn gweithio yng Nghymru, naill ai yn un o’r sefydliadau partner ym maes addysg uwch, neu ym maes ymchwil a datblygu mewn busnes, diwydiant neu’r sector cyhoeddus/trydydd sector.