Sut i wneud cais

Sut bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn cael eu dewis?

Byddant yn cael eu dewis drwy broses gystadleuol yn seiliedig ar geisiadau ysgrifenedig. Bydd ceisiadau dienw yn cael eu hasesu a’u sgorio gan banel dethol rhyngddisgyblaethol a thraws-sefydliadol. Wrth ddewis yr ymgeiswyr llwyddiannus, bydd y panel yn chwilio am ymchwilwyr rhagorol sy’n feddylwyr arloesol a chreadigol, sydd â diddordeb mewn ymchwil ryngddisgyblaethol, ac sydd wedi ymrwymo i feddwl am effaith eu gwaith a chyfleu eu hymchwil y tu hwnt i’w sefydliad presennol. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus eisoes wedi cyflawni cryn dipyn yn eu maes, ac yn dangos ymrwymiad parhaus i ddatblygu eu gyrfa eu hunain a gyrfaoedd ymchwilwyr eraill yng Nghymru.

Mae’r alwad am geisiadau ar gyfer Crwsibl Cymru 2024 bellach ar gau.

Bydd ceisiadau ar gyfer Crwsibl Cymru 2025 yn agor ym mis Ionawr. Dilynwch ni ar Twitter (@welshcrucible) neu cadwch olwg ar negeseuon gan eich sefydliad i gael rhagor o fanylion yn nes at yr amser.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y broses ymgeisio, cysylltwch â naill ai swyddfa Crwsibl Cymru neu eich hyrwyddwr Crwsibl Cymru lleol.

Blynyddoedd blaenorol

I gael gwybod mwy am raglenni blaenorol, cliciwch yma.