Pam ddylwn i gyflwyno cais?

Rhaglen adnabyddus o ddatblygiad personol, proffesiynol a sgiliau arwain ar gyfer arweinwyr ymchwil y dyfodol yng Nghymru yw Crwsibl Cymru.

Adeiladu rhwydweithiau – bydd Crwsibl Cymru yn eich helpu i ddatblygu rhwydwaith agos o gyfoedion o’r un anian â chi yn y gymuned ymchwil, yn ogystal â meithrin cysylltiadau â Llywodraeth Cymru, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a chyfryngau Cymru;

Creu partneriaethau – bydd Crwsibl Cymru’n eich helpu i ddysgu am feysydd ymchwil newydd i hwyluso datblygiad personol a gyrfa, a dangos manteision ymchwil ryngddisgyblaethol a chydweithio;

Gwella eich proffil proffesiynol – bydd Crwsibl Cymru yn rhoi’r hyder i chi gyflwyno eich ymchwil i gynulleidfaoedd perthnasol yn ogystal â rhoi mwy o amlygrwydd i’ch gwaith ymchwil, a sicrhau ei fod yn cael effaith.

Cynyddu eich effeithiolrwydd personol – bydd Crwsibl Cymru yn eich cyflwyno i ffyrdd newydd o feddwl a gweithio er mwyn gwella eich effeithiolrwydd personol o fewn eich sefydliad a’r tu hwnt iddo.

Manteision i gyflogwyr

Bydd cael eich dewis ar gyfer y rhaglen hon sy’n uchel iawn ei pharch, o fudd i’ch cyflogwr a chithau fel eich gilydd. Bydd Crwsibl Cymru yn eich helpu i ddatblygu eich sgiliau creadigrwydd ac arloesedd a bydd yn eich galluogi i ddefnyddio’r sgiliau hyn yn y modd mwyaf effeithiol yn eich sefydliad. Drwy fuddsoddi chwe diwrnod o’ch amser bydd eich cyflogwyr yn gallu elwa hefyd o’ch rhwydweithiau estynedig a’ch cysylltiadau gwell â Chynulliad Cenedlaethol Cymru a chyfryngau Cymru.

Faint mae’n ei gostio?

Ariennir Crwsibl Cymru gan gonsortiwm o sefydliadau partner ym maes addysg uwch (Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Bangor, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol Abertawe, Prifysgol De Cymru), yn ogystal â Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC).

Mae hyn yn golygu y bydd yr holl gostau preswyl (gan gynnwys llety ac arlwyo) a’r costau ar gyfer pob sesiwn yn labordai Crwsibl Cymru, yn cael eu talu ar gyfer ymgeiswyr llwyddiannus a gyflogir gan un o’r sefydliadau partner o faes addysg uwch ac ar gyfer hyd at ddau ymgeisydd llwyddiannus a gyflogir gan sefydliad sydd heb gysylltiad ag addysg uwch. Ar gyfer ymgeiswyr mewn sefydliadau addysg uwch nad ydynt yn bartneriaid, cysylltwch â swyddfa Crwsibl Cymru i gael rhagor o wybodaeth. Bydd treuliau hefyd yn cael eu talu i bawb sy’n cymryd rhan i dalu’r hyn mae’n ei gostio i deithio yn ôl ac ymlaen i leoliad pob un o labordai Crwsibl Cymru (gwerth hyd at £100 y daith, yno ac yn ôl).

Pryd gallaf wneud cais?

Mae’r alwad am geisiadau ar gyfer Crwsibl Cymru 2024 bellach ar gau.

Bydd ceisiadau ar gyfer Crwsibl Cymru 2025 yn agor ym mis Ionawr. Dilynwch ni ar Twitter (@welshcrucible) neu cadwch olwg ar negeseuon gan eich sefydliad i gael rhagor o fanylion yn nes at yr amser.