Bob blwyddyn, mae Crwsibl Cymru yn creu rhwydwaith o 30 o ymchwilwyr ledled Cymru.
Drwy gyfres o weithdai preswyl 2 ddiwrnod o hyd, mae arweinwyr ymchwil y dyfodol yn cael y cyfle i edrych ar gydweithio ac arloesi rhyngddisgyblaethol.
Ar ôl deuddeg mlynedd, mae rhwydwaith cyn-ymchwilwyr Crwsibl Cymru yn cynnwys 330 o aelodau.
I weld proffiliau ymchwilwyr Crwsibl Cymru, cael gwybod rhagor am brosiectau llwyddiannus a pharhaus, a chael gafael ar adroddiadau yn y cyfryngau a rhagor, cliciwch y dolenni yn y bar ochr.