Rhaglen datblygiad personol, proffesiynol a sgiliau arwain o fri ar gyfer arweinwyr ymchwil y dyfodol yng Nghymru yw Crwsibl Cymru.
Yn awr yn ei 14eg cylch, mae’r rhaglen yn hwyluso ac yn hyrwyddo arloesedd a ysbrydolir gan ymchwil yn ogystal â chydweithio rhyngddisgyblaethol yng Nghymru.
Mae galw mawr am leoedd ar Grwsibl Cymru gan ymchwilwyr sy’n dechrau dangos rhagoriaeth yn eu meysydd. Ariennir y rhaglen gan gonsortiwm o brifysgolion Cymru, mewn partneriaeth â Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.
Bob blwyddyn, dewisir 30 o ymchwilwyr o bob rhan o Gymru i gymryd rhan mewn cyfres o weithdai preswyl neu ‘labordai sgiliau’. Yn ystod y gweithdai hyn, maent yn archwilio sut y gallant elwa ar weithio gydag ymchwilwyr o ddisgyblaethau eraill, sut i gynyddu effaith eu gwaith ymchwil, a sut i ddilyn gyrfaoedd ymchwil rhyngwladol yng Nghymru.
Mae’r rhai sy’n cymryd rhan yn parhau i ddatblygu partneriaethau gyda’i gilydd y tu hwnt i’r rhaglen ffurfiol, ac mae rhwydwaith cyn-ymchwilwyr Crwsibl Cymru yn hwyluso cysylltiadau rhwng y gwahanol garfannau.
Enillodd Crwsibl Cymru Wobr Times Higher Education ar gyfer Cyfraniad Rhagorol at Ddatblygu Arweinyddiaeth yn 2013, a nododd y beirniaid ei fod yn cael ‘effaith bellgyrhaeddol ar agweddau ac ymddygiadau’.