Rhaglen adnabyddus o ddatblygiad personol, proffesiynol a sgiliau arwain ar gyfer arweinwyr ymchwil y dyfodol yng Nghymru yw Crwsibl Cymru.
Adeiladu rhwydweithiau – bydd Crwsibl Cymru yn eich helpu i ddatblygu rhwydwaith agos o gyfoedion o’r un anian â chi yn y gymuned ymchwil, yn ogystal â meithrin cysylltiadau â Llywodraeth Cymru, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a chyfryngau Cymru;
Creu partneriaethau – bydd Crwsibl Cymru’n eich helpu i ddysgu am feysydd ymchwil newydd i hwyluso datblygiad personol a gyrfa, a dangos manteision ymchwil ryngddisgyblaethol a chydweithio;
Gwella eich proffil proffesiynol – bydd Crwsibl Cymru yn rhoi’r hyder i chi gyflwyno eich ymchwil i gynulleidfaoedd perthnasol yn ogystal â rhoi mwy o amlygrwydd i’ch gwaith ymchwil, a sicrhau ei fod yn cael effaith.
Cynyddu eich effeithiolrwydd personol – bydd Crwsibl Cymru yn eich cyflwyno i ffyrdd newydd o feddwl a gweithio er mwyn gwella eich effeithiolrwydd personol o fewn eich sefydliad a’r tu hwnt iddo.
Manteision i gyflogwyr
Bydd cael eich dewis ar gyfer y rhaglen hon sy’n uchel iawn ei pharch, o fudd i’ch cyflogwr a chithau fel eich gilydd. Bydd Crwsibl Cymru yn eich helpu i ddatblygu eich sgiliau creadigrwydd ac arloesedd a bydd yn eich galluogi i ddefnyddio’r sgiliau hyn yn y modd mwyaf effeithiol yn eich sefydliad. Drwy fuddsoddi chwe diwrnod o’ch amser bydd eich cyflogwyr yn gallu elwa hefyd o’ch rhwydweithiau estynedig a’ch cysylltiadau gwell â Chynulliad Cenedlaethol Cymru a chyfryngau Cymru.
Faint mae’n ei gostio?
Ariennir Crwsibl Cymru gan gonsortiwm o sefydliadau partner ym maes addysg uwch (Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Bangor, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol Abertawe, Prifysgol De Cymru), yn ogystal â Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC).
Mae hyn yn golygu y bydd yr holl gostau preswyl (gan gynnwys llety ac arlwyo) a’r costau ar gyfer pob sesiwn yn labordai Crwsibl Cymru, yn cael eu talu ar gyfer ymgeiswyr llwyddiannus a gyflogir gan un o’r sefydliadau partner o faes addysg uwch ac ar gyfer hyd at ddau ymgeisydd llwyddiannus a gyflogir gan sefydliad sydd heb gysylltiad ag addysg uwch. Ar gyfer ymgeiswyr mewn sefydliadau addysg uwch nad ydynt yn bartneriaid, cysylltwch â swyddfa Crwsibl Cymru i gael rhagor o wybodaeth. Bydd treuliau hefyd yn cael eu talu i bawb sy’n cymryd rhan i dalu’r hyn mae’n ei gostio i deithio yn ôl ac ymlaen i leoliad pob un o labordai Crwsibl Cymru (gwerth hyd at £100 y daith, yno ac yn ôl).
Pryd gallaf wneud cais?
Cyflwynwch gais nawr i wneud rhaglen Crwsibl Cymru 2025! Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais yw 27 Ionawr 2025. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am wneud cais.
Dilynwch ni ar Twitter @welshcrucible i weld y cyhoeddiadau diweddaraf.