Cymhwysedd

Gwahoddir ceisiadau gan ymchwilwyr dawnus sydd ar ddechrau neu ar ganol eu gyrfa ac sy’n dechrau dangos rhagoriaeth yn eu priod feysydd. Gall ymgeiswyr fod yn gweithio mewn unrhyw ddisgyblaeth (gan gynnwys, ymhlith rhai eraill, gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, meddygaeth, y celfyddydau, dylunio, gwyddor gymdeithasol a gwleidyddol).

I fod yn gymwys ar gyfer y rhaglen, dylai ymgeiswyr:

– feddu ar o leiaf 6 blynedd o brofiad ymchwil;

(Er enghraifft, ar gyfer ymgeiswyr mewn Sefydliad Addysg Uwch byddai hyn fel arfer yn cynnwys 3 blynedd yn gweithio tuag at eu PhD, a 3 blynedd o brofiad ymchwil ôl-ddoethurol wedi hynny. Ar gyfer ymgeiswyr nad ydynt yn ymgeiswyr o sefydliad addysg uwch, gallai hyn fod yn 6 blynedd o brofiad mewn rôl ymchwil a datblygu naill ai mewn busnes, diwydiant neu’r sector cyhoeddus/trydydd sector).

– bod yn gweithio yng Nghymru, naill ai yn un o’r sefydliadau partner ym maes addysg uwch (Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Bangor, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol Abertawe, Prifysgol De Cymru) neu mewn ymchwil a datblygu mewn sefydliad nad yw’n gysylltiedig ag addysg uwch yng Nghymru;

(Dylai ymgeiswyr o sefydliadau addysg uwch nad ydynt yn bartneriaid gysylltu â swyddfa Crwsibl Cymru i gael rhagor o gyngor).

– cael eu cyflogi gan sefydliad partner ym maes addysg uwch neu sefydliad arall yng Nghymru drwy gydol cyfnod y rhaglen (h.y. tan 31 Gorffennaf 2026);

– gallu ymrwymo i fynychu rhaglen breswyl lawn Crwsibl Cymru ar yr holl ddyddiadau isod:

14eg a 15fed yng Nghaerdydd

4ydd a 5ed Mehefin ym Mangor

2il a 3ydd Gorffennaf yn Abertawe

– heb fod wedi mynychu Crwsibl yn ystod y 3 blynedd diwethaf neu fod yn rhan o garfan Crwsibl gyfredol.

Cyflwynwch gais nawr i wneud rhaglen Crwsibl Cymru 2026! Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais yw 26 Ionawr 2025, am 10yb. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am wneud cais.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch p’un a ydych yn gymwys ar gyfer rhaglen Crwsibl Cymru, cysylltwch â Dr Rhiannon Robinson drwy ebostio welshcrucible@caerdydd.ac.uk